Osian Williams o fand Candelas yn canu yn y Gwobrau llynedd (llun: Y Selar)
Mae cylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Y Selar wedi agor eu pleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr eu gwobrau blynyddol.

Yn dilyn proses o dderbyn enwebiadau ar gyfer yr amryw gategorïau gan y cyhoedd, mae Panel Gwobrau’r Selar wedi dewis rhestrau hir, a’r cyfan bellach nôl yn nwylo’r cyhoedd.

Mae tocynnau digwyddiad Gwobrau’r Selar, fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar benwythnos 20-21 Chwefror ac a noddir gan Brifysgol Aberystwyth, hefyd bellach ar werth i’r cyhoedd.

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r cylchgrawn gynnal digwyddiad i ddathlu eu gwobrau blynyddol.

Cafodd y 500 o docynnau oedd ar gael llynedd i gyd eu gwerthu ymlaen llaw, ac fe ddywedodd y trefnwyr eu bod yn disgwyl i’r galw fod yn fawr eto eleni.

Candelas oedd un o brif enillwyr y gwobrau yn 2014, gan ddod i’r brig mewn tair categori, ac fe fu eraill megis Georgia Ruth, Kizzy Crawford a Sŵnami hefyd yn llwyddiannus.

Blwyddyn gofiadwy

Bydd pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor i’r cyhoedd nes nos Sul, 18 Ionawr, gydag enillwyr y 12 categori’n cael eu cyhoeddi yn y digwyddiad yn Aberystwyth.

Yn ôl Uwch-olygydd Y Selar, mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy o gerddoriaeth Gymraeg gyda llu o gynnyrch newydd yn ymddangos.

“Mae dewis o 26 o albyms wedi eu rhestru ar gyfer pleidlais ein categori ‘Recordiau Hir Orau’, a 29 ar y rhestr o recordiau byr, felly mae wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn,” meddai Owain Schiavone.

“Mae’r categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ yn un cry’ eleni eto, gyda nifer o fandiau newydd yn creu argraff, ac mae pleidlais ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ ar agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf eleni hefyd.”

“Mi wnaethon ni ofyn i’r darllenwyr gynnig categorïau newydd posib ar gyfer y Gwobrau eleni, ac o’r rheiny mae panel Gwobrau’r Selar wedi penderfynu cyflwyno categori ‘Offerynnwr Gorau’ gan gydnabod crefft offerynwyr sydd efallai ddim yn aelodau amlycaf grwpiau.

“Y panel fydd yn dewis yr enillydd eleni, ond blwyddyn nesaf y cyhoedd fydd â’r cyfrifoldeb.”

Ehangu’r dathliad

Ers lansio’r digwyddiad byw ddwy flynedd nôl mae Gwobrau’r Selar wedi datblygu’n gyflym i fod yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol.

Bydd y digwyddiad yn ehangu eto eleni gyda cherddoriaeth trwy’r dydd ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror, ac yn ymestyn y dathlu i’r nos Wener hefyd.

“Y nod wrth sefydlu’r digwyddiad oedd i greu gŵyl gerddorol gyffrous yn ystod misoedd llwm y gaeaf,” meddai Owain Schiavone.

“Mae wedi tyfu mewn poblogrwydd yn gynt na’r disgwyl, ac mae hynny’n gyfle i ni dyfu’r digwyddiad.

“Bydd mwy fyth o gerddoriaeth ar ddiwrnod y gwobrau ei hun y tro yma, ac rydan ni am gyflwyno rhywbeth ar y noson flaenorol i ddechrau creu penwythnos, a theimlad gŵyl go iawn.”

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth o wefan Sadwrn.com nawr, a’r bleidlais ar agor yma – http://bit.ly/1zJNNBP