Gary Raymond, golygydd Wales Arts Review
Mae cylchgrawn Saesneg y Wales Arts Review wedi cyhoeddi y bydd yn dod i ben, gan ddweud nad yw Cyngor Llyfrau Cymru wedi rhoi grant digonol iddo.

Mewn datganiad gan olygyddion y cylchgrawn, Gary Raymond a Phil Morris, yr awgrym yw bod y Cyngor Llyfrau wedi gwrthod rhoi hanner y grant a ofynnwyd amdano i’r cylchgrawn, sef £55,000, yn “fwriadol” er mwyn eu cau i lawr.

Mae’r Cyngor Llyfrau wedi cydnabod bod “sawl her” yn wynebu’r corff, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Meddai golygyddion Wales Arts Review: “Fe wnaethom ni gyflwyno cais hynod gryf, ond ddydd Gwener fe gawsom ni wybod fod y Cyngor Llyfrau yn barod i roi llai na hanner yr hyn oeddem ni wedi ei ofyn amdano.

“Roeddem wedi ei gwneud hi mor glir â phosib na fyddem ni’n medru parhau fel cylchgrawn oni bai ein bod ni’n cael y grant llawn yr oeddem yn ei ofyn amdano.

“Ond fe wnaed y penderfyniad hwn er mwyn ein cau ni lawr – does dim esboniad arall o’r peth.”

Mae’r Wales Arts Review hefyd yn galw cynnig grant y Cyngor Llyfrau o £20,000 – sy’n 37% o’r hyn a ofynnwyd amdano – yn “sarhaus”.

‘Gwasgfa ariannol’

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau eu bod yn awyddus i’r cylchgronau fu’n derbyn grantiau gan y corff i barhau i gyhoeddi, ond bod y “wasgfa ar gyllidebau cyhoeddus” yn ei gwneud yn anodd iddyn nhw ddyrannu grantiau:

“Roeddem yn ymwybodol bod sawl her yn eu hwynebu o safbwynt cynnal gwerthiant a chyrhaeddiad ac ymestyn at ddarllenwyr newydd, yn ogystal ag ystyried posibiliadau’r ddarpariaeth ddigidol.

“Gan ein bod yn awyddus i’r cylchgronau barhau â’u rôl bwysig yn trafod, dadansoddi ac ar brydiau yn ailddiffinio ein diwylliant, roedd angen i’r Cyngor a’r cwmnïau unigol ystyried yn ofalus yr heriau hynny.

“Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa economaidd anodd a’r wasgfa ar gyllidebau cyhoeddus sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.”

Newidiadau

Mae cylchgronau eraill Saesneg yng Nghymru, fel Planet, hefyd wedi datgan pryder am eu dyfodol, yn sgil newidiadau i’r drefn o rannu grantiau fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2015.

Yr adeg honno, fe fydd y Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried bod cymorth gan y wlad yn anghyfreithlon ac yn llesteirio cystadleuaeth ymhlith cwmnïau.

Bydd grantiau’n cael eu cwtogi gan reolau ‘de minimis’ sy’n golygu mai’r uchafswm y gallai cyhoeddiad ei dderbyn mewn grantiau dros gyfnod o dair blynedd yw 200,000 ewro, sef tua £55,000 y flwyddyn.

O dan y rheolau newydd, fe fydd cyhoeddiadau Cymraeg yn ddiogel gan eu bod nhw a chyhoeddiadau mewn ieithoedd lleiafrifol eraill wedi’u heithrio.