Ian Parry
Ar adeg y Nadolig 1989 bu farw ffotograffydd ifanc o Brestatyn, Ian Parry, mewn damwain awyren ger Bwcarest yn Rwmania.

Ond ai damwain oedd hi neu a dargedwyd yr awyren yn bwrpasol ac, os felly, pam a gan bwy?

Yn y gyntaf o gyfres newydd o ‘Gohebwyr’ ar S4C mae John Stevenson, cyn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru Wales, yn teithio i Rwmania i geisio cael ateb i ddirgelwch sydd heb eglurhad ers chwarter canrif.

Roedd hi’n gyfnod o chwyldro gwaedlyd yn Rwmania. Yn ystod y terfysg lladdwyd dros 1,000 o bobl ym Mwcarest yn unig ac o ganlyniad i’r chwyldro cafodd cyfundrefn gomiwnyddol Nicolae Ceaușescu ei dymchwel.

Damwain?

Ian Parry, 24, oedd un o’r ffotograffwyr fu’n gweithio ym Mwcarest yn ystod y gwrthryfel ar gomisiwn gan y Sunday Times. Yng nghanol y berw, penderfynodd ddychwelyd i Lundain gyda’i luniau gan gwblhau cam cynta’r daith mewn awyren adawodd faes awyr ym Mwcarest ddydd Iau,
28 Rhagfyr 1989.

Hedfan ar daith ddyngarol i nôl gwaed o Felgrad, prifddinas yr hen Iwgoslafia, oedd yr awyren a’i chriw o chwech gydag Ian fel yr unig deithiwr. Ond llai na 12 munud wedi gadael Bwcarest plymiodd yr awyren i goedwig anghysbell gan ladd y criw o chwech o Rwmaniaid a’r ffotograffydd.

Yn ôl yr awdurdodau, damwain oedd hi wedi ei hachosi gan rew ar adenydd yr awyren ond hyd yn oed yn y dyddiau cynnar roedd yna amheuon. Ond pam mynd ati yn fwriadol i ladd y ffotograffydd ifanc, beth oedd o’n ei gario allan o Rwmania oedd mor bwysig? Yn y rhaglen ‘Gohebwyr: John Stevenson’ mae’r gohebydd yn ceisio datrys y dirgelwch sy’n gysylltiedig â’r hanes hyd heddiw.

‘Hanes tywyll Rwmania’

“Mae gen i ddiddordeb yn Rwmania ers blynyddoedd,” meddai John Stevenson. “Ond dod ar draws y stori drwy hap a damwain wnes i gan glywed son fod sianel deledu Antena 3 yn Rwmania wedi bod yn ymchwilio i’r hanes. Mae’r stori yn tanlinellu hanes tywyll y wlad ac mae’n rhaid i Rwmania wynebu ei gorffennol os am symud ymlaen yn llwyddiannus”.

Ym Mwcarest, mae John Stevenson yn clywed gan ohebydd o Antena 3, Carmen Moise ac ym mhentref Vistina, y gymuned agosaf at y goedwig lle disgynnodd yr awyren, mae’n cwrdd â llygad-dystion i’r digwyddiad. Maen nhw i gyd yn sôn am eu hamheuon ynglŷn â honiad yr awdurdodau mai damwain achosodd i’r awyren ddisgyn. Mae pentrefwyr yn Vistina yn sôn am weld yr awyren mewn dwy ran yn yr awyr, am glywed sŵn mawr fel ffrwydrad ac am dân yn dod o gynffon yr awyren.

Mae’r llygad-dystion hefyd yn sôn am filwyr a hofrenyddion yn cyrraedd y fan lle disgynnodd yr awyren o fewn chwarter awr ac yn dangos mwy o gonsyrn am ddogfennau ac eitemau eraill o’r awyren nag am gyflwr y teithwyr.

Er mwyn darganfod p’un ai damwain neu weithred fwriadol o gynllwyn achosodd i’r awyren gael ei chwalu’n ddarnau, mae John Stevenson yn ymweld â’r fan lle disgynnodd yr awyren ac mae’n darganfod rhannau ohoni yn y pridd.

“Roedd hynny’n brofiad dirdynnol,” meddai. “Roedd yna groes gyntefig i goffáu’r criw, ond dim sôn am Ian Parry. I bob pwrpas, mae Rwmania wedi anghofio stori’r Cymro ifanc.”

‘Ymchwiliad’

Mae hefyd yn cwrdd â Dan Voinea, y Prif Erlynydd Milwrol yn yr achos llys yn erbyn Ceaușescu cyn i’r arweinydd gael ei ddienyddio.

Gobaith John Stevenson yw y bydd ei raglen yn creu diddordeb newydd yn achos Ian Parry. “Mae ’na le yma am ymchwiliad gan San Steffan neu gan yr awdurdodau yn Ewrop er mwyn dod at y gwir,” meddai.

Bydd ‘Gohebwyr: John Stevenson’ yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth, 30 Rhagfyr, am 9.30yh.