Datgelwyd heddiw bod y problemau a gafwyd mewn meysydd awyr ar draws y DU ddoe o ganlyniad i fethiant “digynsail” yn y system.
Mae’r cwmni sy’n rheoli traffig awyr, Nats, wedi bod yn rhoi manylion am y broblem yn ei ganolfan yn Swanwick, Hampshire ddydd Gwener a arweiniodd at ganslo dwsinau o hediadau gan achosi oedi i gannoedd o deithwyr.
Dywedodd Nats nad oedd diogelwch teithwyr yn y fantol ar unrhyw adeg yn ystod y digwyddiad ddoe.
Er bod y system yn gweithio yn ôl yr arfer heddiw, cafodd tua 38 o hediadau eu canslo ym maes awyr Heathrow bore ma.