Tom Adams
Mae’r actor Tom Adams, a ddaeth i amlygrwydd yn y ffilm The Great Eascape, wedi marw yn 76 oed.

Roedd Adams, a oedd hefyd wedi perfformio mewn cyfresi teledu gan gynnwys Emergency-Ward 10, General Hospital a The Onedin Line, wedi bod yn dioddef o ganser a bu farw ddydd Iau.

Dywedodd ei asiant Emma Harvey: “Roedd ei bersonoliaeth mor fawr a chynnes a’i lais hyfryd. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”

Roedd Adams yn actor ifanc pan gafodd rôl Dai Nimmo yn y ffilm am garcharorion yn dianc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, The Great Escape, yn 1963 gyda Steve McQueen, Richard Attenborough a James Garner.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar roedd wedi lleisio nifer o hysbysebion.