Tulisa Contostavlos
Fe fydd y gantores Mel B yn colli rownd derfynol y gyfres X Factor heno oherwydd salwch, gydag un o’r cyn feirniaid Tulisa Contostavlos yn cymryd ei lle.

Fe fydd Mel B, un o gyn-aelodau’r Spice Girls, yn colli’r sioe yn Wembley wrth i Andrea Faustini, Ben Haenow a Fleur East gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Roedd hi’n absennol o gynhadledd i’r wasg ddydd Iau a dywedodd llefarydd bod Mel B wedi derbyn cyngor meddygol i beidio ymddangos yn y rhaglen heno.

O ganlyniad fe fydd Tulisa Contostavlos yn ymuno a’r beirniaid eraill sef Simon Cowell, Cheryl Fernandez-Versini a Louis Walsh.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yfory.

Ffefryn y bwcis i ennill yw Fleur East.