John Hartson
Mae cyn chwaraewr rhyngwladol tîm pêl-droed Cymru John Hartson wedi datgelu sut yr oedd ei wraig ar fin ei adael oherwydd ei broblemau gamblo.

Dywedodd Hartson, 39 oed, ei fod wedi parhau i gamblo wrth iddo wella o ganser.

Ond mae’n dweud nad yw wedi gamblo era tair blynedd bellach ac yn parhau i fynd i gyfarfodydd Gamblers Anonymous yn Abertawe. Bydd yn parhau i fynd i’r cyfarfodydd nes ei fod yn 70, meddai, er mwyn cadw’r broblem o dan reolaeth.

Mae’n datgelu mewn rhaglen ddogfen ar BBC Alba, Big John: Sgeulachd John Hartson, sut yr oedd ei wraig, Sarah, ar fin ei adael.

“Un bore, roedd Sarah wedi codi’n gynnar a dywedodd ei bod am fy ngadael i petawn i’n cario mlaen i gamblo.
“Dywedodd na allai hi eistedd nôl a fy ngwylio i’n rhoi fy hun drwy hyn.”

“Roedd hynny’n foment drist iawn ac yn ddifrifol iawn yn fy mywyd.

“Roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelodion. Fysa’n well gen i beidio bod yma achos beth ydw i heb fy nheulu? Dwi’n ddim hebddyn nhw.”

Canser

Mae gan Hartson dri o blant gyda’i wraig Sarah.

Dywedodd ei wraig: “Rydw i’r un mor falch ohono am ddod dros ei broblemau gamblo ag yr ydw i ohono’n gwella o ganser.

“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ddrwg oedd pethau nes bod John yn ddifrifol wael ac roedd yn rhaid i mi ofalu am y cyfrifon, ac roedd wedi cuddio llawer oddi wrtha’i.”

Bu’n rhaid i Hartson gael llawdriniaeth i achub ei fywyd bum mlynedd yn ôl ar ôl cael diagnosis o ganser y ceilliau a oedd wedi lledu i’w ymennydd.

Wrth iddo wella o’i lawdriniaeth aeth i Fort William yn Ucheldiroedd yr Alban i weld ei rieni yng nghyfraith a tra roedd yno fe benderfynodd roi her iddo’i hun i ddringo Ben Nevis.

Mae bellach yn ddigwyddiad blynyddol lle mae’n dringo’r mynydd gyda’i ffrindiau er mwyn casglu arian ar gyfer ei elusen.

Dywed Hartson bod Ucheldiroedd yr Alban wedi helpu gyda’i wellhad a’i fod wrth ei fodd yn mynd yno.

Gellir gweld y rhaglen Big John ar BBC Alba nos Iau, 18 Rhagfyr am 9yh.