Catfish and the Bottlemen (Llun BBC)
Roedd band roc o ogledd Cymru ymysg y prif enillwyr yng Ngwobrau Cerdd y BBC neithiwr.
Cafodd y band Catfish And The Bottlemen, sy’n hanu o Landudno, y wobr am fod yn fand sy’n debygol o lwyddo yn y dyfodol, gan ennill y BBC Introducing Award.
Ed Sheeran, fu’n cyd-weithio gydag Amy Wadge o Gaerdydd ar ei sengl Thinking Out Loud, a gafodd y wobr am Artist Gorau’r Flwyddyn. Cafodd y wobr ei chyflwyno iddo gan y Cymro, Tom Jones.
Y canwr a’r rapiwr o America, Pharrell Williams, wnaeth gasglu’r mwyaf o wobrau ar y noson, gan ennill y Wobr i Artist Rhyngwladol a Chan y Flwyddyn – er nad oedd o yn y seremoni yn Llundain i dderbyn ei anrhydeddau.
Cafodd y gynulleidfa yn Earls Court, Llundain eu diddanu gan artistiaid fel Paloma Faith, Ella Henderson a George Ezra a’r cyflwynwyr radio Chris Evans a Fearne Cotton oedd yn arwain y sioe.
Dyma fideo o gân The Pacifier gan Catfish And The Bottlemen: