Mae cerddwraig wedi marw, a’i chorff wedi’i ganfod yn y mor.
Roedd y ddynes 60 oed yn rhan o grwp o gerddwyr o ardal Hayle brynhawn ddoe. Dyw hi ddim yn glir sut y daeth hi i fod yn y dwr ger Godrevy Point yng ngorllewin Cernyw.
Fe fu’r heddlu, gwylwyr y glannau a hofrenyddion achub yn chwilio amdani toc cyn 5yp ddoe, ac fe gafodd y wraig ei thynnu o’r tonnau am 6.30yp.
Wedyn, fe gafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Cernyw yn Treliske, lle bu farw.