Cafodd ymladdwyr tân eu galw i dorri dyn yn rhydd o gar mewn llyn yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân y bore.

Fe gafodd y criwiau eu galw i Barc y Rhath am 2.07yb heddiw, a hynny oherwydd fod car wedi glanio yn y llyn.

Roedd un dyn yn sownd y tu mewn i’r car, ac un arall wedi llwyddo i ddianc ohono.

Fe lwyddwyd i gael y dyn yn rhydd, ac er ei fod mewn sioc, dim ond mân anafiadau oedd ganddo.