Fe fu’n rhaid i Wasnaeth Tan ac Achub Canolbarth Cymru achub dyn o hen waith plwm neithiwr
Fe gafodd y gwasanaeth ei alw toc cyn 6yh i waith Bwlch Glas ger Tal-y-bont, Ceredigion, ac fe ddaeth criwiau o Aberystwyth a Machynlleth yno.
Fe fu’n rhaid defnyddio rhaffau i godi’r dyn o’r hen siafft, ac fe ddaeth ambiwlans yno i’w drin.
Mewn datganiad, mae’r Gwasanaeth Achub yn dweud fod y dyn gafodd ei achub mewn cyflwr a hwyliau “da”.