Daeth yr heddlu o hyd i gorff Charlotte Bevan a'i babi yng Ngheunant Avon ger Pont Clifton, Bryste
Mae corff babi newydd a ddiflannodd gyda’i mam o ysbyty mamolaeth ym Mryste wedi cael ei ddarganfod gan yr heddlu.

Cafwyd hyd i’r ferch chwe diwrnod oed, Zaani Tiana Bevan Malbrouck, yn yr un ardal o Geunant Avon lle y cafwyd hyd i’w mam, Charlotte Bevan, 30, neithiwr.

Mae Ymddiriedolaeth Ysbytai Prifysgol Bryste wedi lansio ymchwiliad i’r gofal a gafodd y fam a’i phlentyn.

Diflannodd Charlotte Bevan a’i babi newydd o Ysbyty Mamolaeth Bryste ddydd Mawrth.

Mae lluniau CCTV yn dangos Charlotte Bevan yn gadael yr ysbyty ac yn cario Zaani mewn blanced.