Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall eira ddisgyn ar dir uchel Cymru yfory a thros y penwythnos.
Mi fydd hi’n rhewi dros nos, yn ol y Swyddfa Dywydd, ac fe fydd gwyntoedd yn chwythu’r glaw tuag at Gymru, gyda siawns y bydd yn troi yn eira.
Ddydd Sadwrn, mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 11C ar ei uchaf.
Mae disgwyl i sawl centimetr o eira ddisgyn yng ngweddill gwledydd Prydain erbyn diwedd y penwythnos hefyd.