Jeremy Thorpe
Mae cyn arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Jeremy Thorpe wedi marw.

Roedd yn 85 oed.

Dywedodd ei fab, Rupert, bod ei dad wedi bod yn dioddef o glefyd Parkinson’s ers mwy na 30 mlynedd.

Roedd Thorpe wedi bod yn arweinydd y blaid yn y 1960au a’r 1970au.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd yr Arglwydd Steel o Aikwood, wnaeth ei olynu fel arweinydd y blaid: “Roedd ganddo gydymdeimlad gwirioneddol tuag at bobl ddifreintiedig – boed hynny yng ngogledd Dyfnaint lle y dechreuodd ei ymgyrch gyntaf, neu yn Affrica, lle bu’n gwrthwynebu apartheid ac yn gyfaill i bobl fel yr Arlywydd Kaunda o Zambia.”