Robert Stuart a Darren Hughes
Mae crwner wedi cyhoeddi rheithfarn naratif mewn cwest i farwolaeth dau ddyn o dde Cymru fu farw ar ôl derbyn arennau oedd wedi’i heintio.

Wrth gofnodi’r rheithfarn yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd y crwner nad oedd meddygon ar fai am farwolaeth y ddau ddyn.

Derbyniodd Darren Hughes, 42, a Robert Stuart, 67, arennau oedd wedi’u heintio â llyngyr yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd y llynedd.

Roedd y ddau ddyn wedi derbyn aren yr un gan ddyn alcoholig 39 oed oedd wedi marw o lid yr ymennydd.

Roedd meddygon yn hyderus y gallen nhw fod wedi rheoli’r haint ond roedd y llid yr ymennydd wedi’i achosi gan lyngyr nad oedd modd ei drin. Dywedodd yr ysbyty nad oedd modd iddyn nhw wybod fod y rhoddwr wedi marw o ganlyniad i gael ei heintio â llyngyr.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Christopher Woolley, heddiw bod y ddau glaf wedi marw o “ganlyniad anfwriadol i ymyrraeth feddygol angenrheidiol”.

Caniatâd

Mae teuluoedd y ddau ddyn yn dweud y byddai Darren Hughes a Robert Stuart dal yn fyw pe baen nhw wedi cael gwybod y ffeithiau i gyd cyn cytuno i gael y trawsblaniadau.

Roedd saith ysbyty wedi gwrthod yr arennau gan y rhoddwr oherwydd amheuaeth ynghylch yr hyn oedd wedi achosi ei farwolaeth ac oherwydd ei alcoholiaeth.

Dywed y ddau deulu y dylai meddygon fod wedi dilyn argymhellion a gwrthod yr arennau.

Ond fe ddywedodd un o lawfeddygon yr ysbyty, Argiris Asderakis, fod ysbytai’r DU yn aml yn derbyn organau gan gleifion sy’n peri risg uchel.

Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, mae 52 o gleifion oedd wedi’u heintio â llid yr ymennydd neu encephalitis wedi rhoi organau.