E-lun o'r dyn mae'r heddlu'n awyddus i'w holi
Mae’r heddlu ym Mhorthcawl wedi cyhoeddi llun o ddyn yn ei 40au sy’n cael ei gysylltu â digwyddiad amheus lle cafodd merch 13 oed ei dychryn.

Ar ddydd Sadwrn 22 Tachwedd, fe ddaeth y dyn at y ferch 13 oed wrth iddi gerdded i lawr Ffordd Newydd, ger Ysgol Gynradd Newton.

Roedd wedi ceisio siarad â hi, ond fe wnaeth y ferch wrthod ateb ei gwestiynau ac yna fe gerddodd y dyn i ffwrdd i lawr Ffordd Mackworth.

Dywed yr heddlu fod y dyn yn ei 40au ac roedd yn gwisgo siaced werdd, trowsus du a het ddu.

“Fe gafodd y ferch yn ei harddegau ei dychryn ar ôl y digwyddiad ond ni chafodd hi ei hanafu. Rydym yn annog pobol i edrych ar y llun a chysylltu hefo ni os oes ganddyn nhw wybodaeth am y dyn.”

Gofynnir i bobol gysylltu â’r heddlu ar 101 os oes ganddyn nhw wybodaeth.