Poster Swyno’r Sêr
Mae trefnwyr gŵyl newydd yng Nghwm Tawe wedi lansio’r digwyddiad gyda chystadleuaeth farddoniaeth.
Eisoes, mae’r grŵp elusennol o Ystradgynlais, Swyno’r Sêr wedi codi dros £11,000 at Ymchwil Canser Cymru a Thŷ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Bydd gŵyl gerddoriaeth yn cael ei chynnal yng Nghwm Tawe a Brycheiniog rhwng Chwefror 20 a 22.
Ar nos Wener, Chwefror 20, bydd noson cabaret yng nghwmni Huw Chiswell, Eadie Crawford ac Angharad Brinn, a Toni Caroll fydd yn cyflwyno’r noson.
Ar nos Sadwrn, Chwefror 21, bydd noson sioeau cerdd dan ofal Huw Foulkes, ac fe fydd nifer o gorau’n cymryd rhan ochr yn ochr â’r unawdydd Catrin Angharad Roberts.
Cymanfa Ganu fydd yn cloi’r ŵyl ar brynhawn Sul, Chwefror 22, a honno o dan arweiniad Alwyn Humphreys.
Barddoniaeth
Y briff ar gyfer y gystadleuaeth yw ysgrifennu darn o farddoniaeth sy’n trafod colled bersonol a’r gobaith sy’n dilyn.
Dywedodd y prif drefnydd Aled Hopton wrth Golwg360: “Sbardun gwreiddiol yr ŵyl oedd y teitl ‘Swyno’r Sêr’ a chroesawn gyfeiriad at neu ddyfyniad o’r teitl hwn yn y darn.
“Cafodd y teitl, fel yr ŵyl gyfan, ei ysbrydoli gan fy ngholled bersonol i.”
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Ionawr 9, a’r wobr yw £100, ac fe ddylid anfon ceisiadau at swynorser@gmail.com.
Bydd y darn buddugol yn cael ei gyhoeddi yn llyfryn yr ŵyl.