O heddiw ymlaen, fe fydd chwaneg o raglenni S4C ar gael ar wasanaeth gwylio nôl BBC iPlayer.
Fe fydd y sianel Gymraeg yn ymddangos ymhlith y rhestr o brif sianeli BBC iPlayer, gyda’r rhaglenni ar gael i’w gwylio yn fyw ac ar alw am 30 diwrnod.
Mae rhaglenni fel Cara Fi a chyfres newydd y ddrama dditectif Y Gwyll ymysg y rhaglenni fydd ar gael i wylwyr.
S4C yw’r unig sianel annibynnol sydd ar gael ar BBC iPlayer ac fe ddywedodd llefarydd ar ran y sianel bod gobaith y bydd y gwasanaeth newydd yn “rhoi cyfleoedd ychwanegol i’r cyhoedd weld yr amrywiaeth o raglenni”.
‘Datblygiad pwysig’
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae’n wych croesawu S4C i BBC iPlayer.
“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy’n tynnu ynghyd cyfoeth o gynnyrch yn yr iaith Gymraeg gyda’i gilydd am y tro cyntaf mewn un man – yn cynnwys rhaglenni S4C a BBC Radio Cymru – gan ei gwneud hi’n haws nag erioed o’r blaen i’r gynulleidfa ddod o hyd i’r rhaglenni maen nhw’n eu mwynhau.
“Mae hefyd yn enghraifft amlwg o’r ffordd mae’r bartneriaeth greadigol sy’n bodoli rhwng y ddau’n gwneud gwir wahaniaeth.”
Ychwanegodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C: “Fel yr unig ddarlledwr annibynnol i gynnig cynnwys ar BBC iPlayer, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i’r cyhoedd weld yr amrywiaeth gwych o raglenni rydyn ni’n eu cynnig.”