Charlotte Bevan
Daeth cadarnhad mai corff Charlotte Bevan, y ddynes 30 oed a ddiflannodd o ysbyty mamolaeth ym Mryste, oedd wedi cael ei ddarganfod mewn ceunant yn Avon neithiwr.

Cafodd ei chorff ei adnabod yn ffurfiol yn gynharach heddiw.

Diflannodd hi a’i babi newydd, Zaani Tiana, o’r ysbyty ddydd Mawrth.

Mae lluniau CCTV yn dangos Charlotte Bevan yn gadael yr ysbyty ac yn cario Zaani mewn blanced.

Mae’r chwilio am y babi bach yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y chwilio yng ngheunant Avon yn parhau a bod yr heddlu, gwirfoddolwyr achub mynydd a hofrennydd yr heddlu wedi ymuno yn y chwilio.

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Charlotte a’i phartner Pascal,” meddai’r llefarydd.

Mewn cynhadledd newyddion ddoe roedd cariad Charlotte Bevan a thad y babi, Pascal Malbrouck, wedi ymuno a’i mam, Rachel Fortune, i wneud apêl emosiynol am wybodaeth.