Tulisa Contostavlos
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi y bydd 25 o euogfarnau oedd yn ddibynnol ar dystiolaeth y newyddiadurwr cudd Mazher Mahmood yn cael eu hadolygu.
Chwalodd achos llys yn erbyn y gantores Tulisa Contostavlos ym mis Gorffennaf yn dilyn amheuaeth ynghylch tystiolaeth y dyn sy’n cael ei adnabod fel y ‘Fake Sheikh’.
Cafodd Mahmood, cyn-newyddiadurwr y News of the World, ei ddiarddel o’i waith gyda’r Sun on Sunday yn dilyn achos Tulisa Contostavlos.
Roedd y gantores a chyn-feirniad X Factor yn honni y gallai hi drefnu i Mahmood gael cyflenwad o gocên trwy ei chyfaill Mike GLC, Michael Coombs.
Ond daeth yr achos yn erbyn Tulisa a Coombs i ben wrth i’r barnwr benderfynu bod Mahmood wedi dweud celwydd wrth roi tystiolaeth.
Mae tri o’r achosion sy’n cael eu hadolygu yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn bwriadu rhoi’r cyfle i gyfreithwyr yr amddiffyniad ystyried a fyddan nhw’n apelio yn erbyn euogfarnau a gafodd eu rhoi yn sgil tystiolaeth Mahmood.