Mae dau lanc 15 a 17 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân oedd wedi lladd 60 o gŵn ym Manceinion wedi cael eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.

Cafodd y cŵn eu lladd yn dilyn y tân yng nghanolfan cŵn yn Harpurhey ger Manceinion ar Fedi 11.

Cafodd oddeutu 150 o gŵn eraill eu hachub.

Disgrifiodd staff y ganolfan a diffoddwyr tân y digwyddiad fel un “erchyll”.

Roedd y ddau lanc wedi bod ar fechnïaeth yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.