Y Llys Apel yn Llundain
Ni fydd hawl gan ferch saith oed, yr oedd ei mam wedi yfed yn drwm tra ei bod hi’n feichiog, i dderbyn iawndal.
Mae’r ferch yn dioddef o anawsterau dysgu ac roedd awdurdod lleol yn dadlau eu bod nhw wedi cael eu hachosi gan or-yfed ei mam.
Ond dywedodd y Llys Apêl nad yw’n erbyn y gyfraith i yfed alcohol tra’n feichiog, hyd yn oed os yw’n achosi niwed i fabanod.
Pe bai’r apêl wedi’i derbyn, fe allai fod wedi arwain at newid yn y gyfraith a fyddai wedi gwahardd menywod beichiog rhag yfed alcohol.
Mae elusennau sy’n gwarchod menywod beichiog wedi croesawu penderfyniad y llys.
Clywodd y llys fod hyd at 80 o geisiadau am iawndal yn cael eu paratoi ar hyn o bryd, ac mae’r dyfarniad hwn yn debygol o ddylanwadu ar ganlyniadau’r ceisiadau hynny.
Roedd yr awdurdod lleol oedd yn cynrychioli’r ferch fach wedi dweud wrth y llys fod ei mam yn yfed hanner potel o fodca ac wyth can o lager cryf bob dydd tra ei bod hi’n feichiog, sydd wyth gwaith yn fwy na’r cyfanswm sy’n cael ei argymell.
Cafodd y ferch fach ei geni â chyflwr a gafodd ei achosi gan fynediad i alcohol.
Mae’r awdurdod lleol yng ngogledd-orllewin Lloegr bellach yn gofalu am y ferch.
Dywedodd y llys apêl mai penderfyniad y fam oedd yfed alcohol tra ei bod hi’n feichiog.