Mae ficer, ei wraig a’u merch yn cael eu holi am farwolaeth amheus babi.

Cafodd y Parchedig Jim Percival, 64, ficer yn Eglwys Holy Trinity yn Freckleton, Swydd Gaerhirfryn ei arestio yn gynharach yr wythnos hon ynghyd a’i wraig Susan, 65, a’u merch Ruth, 28.

Mae Jim Percival a’i ferch yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddiaeth a chynllwynio i gelu genedigaeth plentyn.

Mae ei wraig yn cael ei holi ar amheuaeth o gynllwynio i gelu genedigaeth plentyn.

Cafodd y tri eu harestio ar ôl i’r heddlu gael eu galw i eiddo yn Freckleton ar 25 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi rhoi genedigaeth i fabi oedd wedi marw.

Cafodd dynes 28 oed ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Victoria Blackpool am driniaeth a’i rhyddhau’n ddiweddarach.

Ond yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Swydd Gaerhirfryn maen nhw bellach yn trin marwolaeth y bachgen bach fel un amheus.

Dywed yr heddlu bod archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ond nad oedd yn glir sut y bu farw’r babi. Mae profion pellach yn cael eu cynnal.

Mae’n debyg bod yr heddlu wedi cael 30 awr ychwanegol i holi’r tri ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.