Llys y Goron Caerdydd
Mae llys wedi clywed bod capten tîm rygbi Abertawe, Paul John wedi taro’i gariad yn ei hwyneb yn dilyn ffrae tros wefan gymdeithasol Facebook.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod John, 26, a’i gariad Amy John wedi ffraeo ar ôl iddi ddarganfod ei fod wedi bod yn fflyrtio â merched eraill ar y wefan.

Yn ôl Amy John, digwyddodd yr ymosodiad yng nghartref Paul John ym Mhorthcawl.

Mae Paul John yn gwadu un cyhuddiad o glwyfo’n anghyfreithlon.

Yn dilyn yr ymosodiad, bu’n rhaid i Amy John yfed trwy welltyn ac roedd ganddi graith ar ei hwyneb.

Dywedodd Amy John fod Paul John wedi ceisio’i hatal rhag gadael y tŷ.

Dywedodd ei bod hi wedi ceisio ei gicio ond heb ei gyffwrdd, a’i fod wedi’i tharo yn ei hwyneb.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Amy John wrth yr heddlu mai damwain oedd y cyfan a phenderfynon nhw beidio dwyn achos yn erbyn Paul John.

Mae’r amddiffyniad yn honni mai gwthio Amy John yn unig a wnaeth Paul John.

Mae’r achos yn parhau.