Mae Heddlu’r De wedi arestio pum dyn o Gaerdydd a’r Barri ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychiaeth.
Cafodd cyrchoedd eu cynnal mewn nifer o leoliadau y bore ma, ac mae’r troseddau’n ymwneud ag aelodaeth o grwpiau anghyfreithlon.
Mae’r cyrchoedd yng Nghymru yn dilyn cyrchoedd tebyg yn Llundain heddiw pan gafodd dyn 33 oed ei arestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu annog gweithredoedd brawychol.
Cafodd dyn 40 oed ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i fod â dogfennau twyllodrus yn ei feddiant a’u lledaenu.
Mae’r ddau yn parhau yn y ddalfa.
‘Cydweithrediad’
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Nikki Holland bod ymrwymiad yr heddlu i herio radicaliaeth yn parhau.
“Mae Heddlu’r De yn falch o gysylltiadau cryf â’n cymunedau lleol ac mae eu cydweithrediad yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n herio radicaliaeth ac eithafiaeth yn effeithiol gyda’n gilydd.
“Rwy’n cydnabod fod y sylw diweddar yn y cyfryngau wedi codi pryderon go iawn ond hoffwn ddiolch i’r cyhoedd a’u sicrhau fod y cysylltiadau sydd gennym â’r amryw gymunedau crefyddol yn parhau’n gryf ac yn adeiladol.
“Yn dilyn Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrth-frawychiaeth yr wythnos diwethaf, oedd wedi annog y cyhoedd a busnesau i fod yn wyliadwrus, hoffwn ofyn unwaith eto am eich cydweithrediad a gofyn eich bod yn cysylltu â ni os ydych chi’n gwybod neu’n amau rhywbeth.”