Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi cyllid o £257,000 i helpu rhieni yng Nghymru i ddatblygu sgiliau iaith eu plant.

Mae’r arian ychwanegol yn golygu y bydd 10,000 o blant o gymunedau “mwyaf difreintiedig” Cymru yn cael bag llyfrau ychwanegol pan fyddan nhw’n ddwy oed, meddai’r Llywodraeth.

Bydd yr arian hefyd yn talu am CD o hwiangerddi Cymraeg a Saesneg i 10,000 o fenywod beichiog o ardaloedd Dechrau’n Deg ledled Cymru, i’w hannog i chwarae gyda’u babanod a’u dysgu i siarad.

Bydd pecynnau gwybodaeth ar gyfer menywod beichiog, rhieni newydd a staff proffesiynol hefyd yn cael eu cynhyrchu, ac yn cynnwys ffeithiau am ddatblygiad lleferydd ac iaith a syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau cyfathrebu plant.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Sgiliau iaith a lleferydd da yw’r sylfeini ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd.

“Mae’n hanfodol bwysig felly buddsoddi mewn datblygiad iaith cynnar er mwyn gwneud yn siŵr bod plant o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael cymaint o gefnogaeth â phosib i gael y dechrau gorau yn eu bywyd.

“Rwy’n gobeithio y gwnaiff yr adnoddau ychwanegol rwyf wedi’u cyhoeddi heddiw wella’r gwasanaethau datblygu iaith gynnar a ddarperir gan Dechrau’n Deg ac annog mwy o rieni i roi o’u hamser i ddarllen gyda’u plant.”