Robert Stuart
Mae disgwyl i’r cwest i farwolaeth dau ddyn oedd wedi cael trawsblaniadau yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ddod i ben heddiw.
Derbyniodd Darren Hughes, 42, a Robert Stuart, 67, arennau oedd wedi’u heintio â llyngyr y llynedd.
Roedd y ddau ddyn wedi derbyn aren yr un gan ddyn alcoholig 39 oed oedd wedi marw o lid yr ymennydd.
Roedd meddygon yn hyderus y gallen nhw fod wedi rheoli’r haint ond roedd y llid yr ymennydd wedi’i achosi gan lyngyr nad oedd modd ei drin.
Dywedodd yr ysbyty nad oedd modd iddyn nhw wybod fod y rhoddwr wedi marw o ganlyniad i gael ei heintio â llyngyr.
Doedd dim arwydd o’r llyngyr pan gafodd archwiliad post-mortem ei gwblhau.
Ond mae teuluoedd y ddau ddyn yn dweud na fydden nhw wedi marw pe baen nhw wedi cael gwybod y ffeithiau i gyd cyn cytuno i gael y trawsblaniadau.
Roedd saith ysbyty wedi gwrthod yr arennau gan y rhoddwr oherwydd amheuaeth ynghylch yr hyn oedd wedi achosi ei farwolaeth ac oherwydd ei alcoholiaeth.
Dywed y ddau deulu y dylai meddygon fod wedi dilyn argymhellion a gwrthod yr arennau.
Ond dywedodd un o lawfeddygon yr ysbyty, Argiris Asderakis fod ysbytai’r DU yn aml yn derbyn organau gan gleifion sy’n peri risg uchel.
Yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, mae 52 o gleifion oedd wedi’u heintio â llid yr ymennydd neu encephalitis wedi rhoi organau.
Bydd cyfreithwyr yn cloi eu dadleuon heddiw cyn i’r crwner gyflwyno’i ddyfarniad.