Mae dau ddyn o dde-ddwyrain Llundain wedi cael eu harestio ar amheuaeth o frawychiaeth.
Cafodd y ddau eu harestio’r bore ma mewn dau leoliad gwahanol.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu annog gweithredoedd brawychol.
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i fod â dogfennau ffug yn ei feddiant ac o’u lledaenu.
Mae’r ddau ddyn yn parhau yn y ddalfa tra bod pedwar tŷ yn ne-ddwyrain Llundain ac un tŷ yn Stoke yn cael eu chwilio.
Mae’r heddlu eisoes wedi cwblhau’r gwaith o archwilio dau dŷ yng ngogledd Cymru.