Edwina Hart
Bydd 60 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri yn Llanelli, yn sgil buddsoddiad o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn ffatri gydrannau moduron Gestamp Tallent i osod gwasg metel poeth newydd, ac oherwydd y buddsoddiad mae llyfr archebion y cwmni yn llawn ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r ffatri yn cyflenwi cwmnïau fel Jaguar Land Rover a bydd y wasg newydd yn cynhyrchu tua dwy filiwn o rannau unigol i geir bob blwyddyn.
Bum mlynedd yn ôl roedd yna berygl y byddai’r ffatri’n cau ond bellach mae’r busnes yn ffynnu. Mae’n cyflogi 400 o weithwyr â 60 o swyddi newydd ar y ffordd.
“Dyma newyddion da iawn ar gyfer y cwmni, ar gyfer Llanelli ac ar gyfer y sector moduron yng Nghymru,” meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.
“Bydd hyn yn sicrhau dyfodol y cwmni yno ac yn creu cyfleoedd busnes newydd.”
Perthynas
Ychwanegodd Ian Middleton, Cadeirydd Gestamp yn y DU: “Mae’r prosiect hwn yn cryfhau ymhellach y berthynas waith ardderchog sy’n bodoli rhwng GESTAMP a Llywodraeth Cymru.
“Mae hefyd yn sicrhau bod ein ffatri yn Llanelli bellach yn ymhyfrydu yn y dechnoleg fodern ddiweddaraf i wasgu metel poeth. Ynghyd â buddsoddiad arall yn ddiweddar, mae’r hyn yn sicrhau swyddi, a hefyd yn cynnig potensial gwych ar gyfer twf pellach ar y safle.”