Dyfed Edwards
Fe fydd aelod o Lais Gwynedd yn herio arweinydd Cyngor Gwynedd, ac yn gofyn iddo pam wnaeth o wrthod cynnig i arwyddo llythyr agored yn galw am gryfhau’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio.
Mewn cyfarfod llawn o aelodau’r cyngor heddiw, fe fydd y cynghorydd Alwyn Gruffydd yn mynnu bod trigolion Gwynedd yn haeddu cael gwybod pam na wnaeth Dyfed Edwards ymuno â saith arweinydd cyngor arall ledled Cymru yn yr alwad.
Cyn cyflwyno’r cwestiwn, dywedodd y cynghorydd o Borthmadog wrth golwg360: “Dw i isio gwybod pa mor gynrychioladol ydy o bellach o ddyheadau pobol Gwynedd a’i grŵp ei hun.
“A dydi o ddim y tro cyntaf iddo fynd ar ei ben a’i bastwn ei hun, mi wnaeth o’r un peth hefo Comisiwn Williams – ymateb i’r comisiwn heb unrhyw fath o drafodaeth hefo’r cyngor.”
Y cwestiwn
Yn y cyfarfod am un o’r gloch, bydd Alwyn Gruffydd yn gofyn: “Pam y bu i Arweinydd Cyngor Gwynedd wrthod cynnig i ymuno ag arweinyddion Cynghorau Sir Benfro, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Môn, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam i arwyddo llythyr yn galw ar i Weinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant AC, fanteisio ar y Bil Cynllunio cyfredol i warchod a hybu’r iaith Gymraeg?”
Wedi i golwg360 ofyn am ymateb Cyngor Gwynedd, dywedodd y cynghorydd Dyfed Edwards:
“Gallaf gadarnhau nad ydwyf wedi arwyddo’r llythyr hwn. Yn unol â threfn y Cyngor, byddaf yn darparu ymateb i’r cwestiwn ffurfiol sydd wedi cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Rhagfyr.”