Mae pum dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychiaeth ar ôl i blismyn arfog stopio cerbyd ym mhorthladd Dover wrth iddyn nhw geisio gadael y DU.

Cafodd dau ddyn, 33 a 43 oed, eu harestio yn Dover am 11.30yh neithiwr gan Scotland Yard a swyddogion gwrth-frawychiaeth gyda chymorth Heddlu Caint, a chafodd dyn 28 oed ei arestio yn y porthladd y bore ma.

Fel rhan o’r un ymgyrch, cafodd dau ddyn, 24 a 40 oed, eu harestio yn nwyrain Llundain. Mae’r pump yn cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chomisiynu, paratoi neu annog gweithredoedd brawychol.