Leighton Andrews
Fe fydd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews, yn adolygu ceisiadau gan y cynghorau yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn uno dros yr wythnosau nesaf.
Ar ôl gwneud hynny, fe fydd yn ysgrifennu at awdurdodau lleol “yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd” i nodi ei farn ar y sefyllfa.
Dim ond chwe chyngor o’r 22 yng Nghymru sydd wedi dweud y bydden nhw’n fodlon uno’n wirfoddol gyda’u cymdogion, yn unol ag argymhellion Comisiwn Williams.
Roedd y dyddiad cau i Awdurdodau Lleol gyflwyno eu datganiad o ddiddordeb mewn uno ar 28 Tachwedd.
Y rhai ddangosodd ddiddordeb oedd:
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Fe ddaeth llythyr i law Llywodraeth Cymru oddi wrth Gyngor Sir Abertawe a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot hefyd, yn nodi awydd y ddau awdurdod i archwilio posibilrwydd o uno.
Gwrthod
Mae nifer o gynghorau eraill eisoes wedi dweud nad ydyn nhw eisiau colli eu hannibyniaeth.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi comisiynu adroddiad sy’n awgrymu y gallai uno cynghorau gostio cymaint â £260 miliwn, gydag arbedion tymor hir posib o tua £65 miliwn y flwyddyn.
Roedd Comisiwn Williams y llynedd wedi argymell gostwng nifer y cynghorau yng Nghymru i 10 – 12 ond fe ddywedodd Leighton Andrews yr wythnos ddiwetha’ y gallai’r nifer fod cyn lleied â chwech.