Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi mynnu y byddan nhw’n trwsio wal, a ddisgynnodd yn ystod gêm Cwpan Cymru ddoe, mor fuan â phosib.

Cafodd y wal frics ei dymchwel wrth i gefnogwyr y Cofis ddathlu gôl yn eu gornest yn erbyn Y Seintiau Newydd yn nhrydedd rownd y gwpan.

Yn ffodus ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond fe fu’n rhaid oedi’r gêm wrth i’r llanast gael ei glirio.

Y Seintiau aeth ymlaen i ennill y gêm 3-2, ar ôl bod 2-0 ar ei hôl hi i’r tîm cartref.

Dathlu gôl

Roedd torf o dros 1,200 yn gwylio’r gêm rhwng Caernarfon a’r Seintiau Newydd ar brynhawn dydd Sul, gyda’r gêm hefyd yn fyw ar raglen Clwb S4C.

Ond wrth i’r dorf yn Eisteddle Hendre ddathlu ail gôl Caernarfon, gôl unigol wych gan Darren Thomas, fe ddisgynnodd wal flaen yr eisteddle ar y cae.

Gallwch wylio’r gôl a’r wal yn disgyn yn y fideo isod:

Dywedodd y clwb mewn datganiad na chafodd unrhyw un o’r cefnogwyr eu hanafu ar ôl iddyn nhw ddisgyn ar y cae oherwydd y digwyddiad.

Ond fe fu’n rhaid gohirio’r gêm am ryw ddeng munud wrth i’r blociau concrit fu’n rhan o’r wal gael eu clirio oddi wrth ymyl y cae.

Datganiad y clwb
Mewn datganiad yn dilyn y digwyddiad fe ddywedodd CPD Caernarfon nad oedd unrhyw un ar fai, ond eu bod yn cymryd y mater o ddifrif ac yn bwriadu trwsio’r difrod yn syth.

“Fe ddisgynnodd y wal pan wthiodd cefnogwyr ymlaen i ddathlu gôl, a diolch byth ni chafwyd anafiadau,” meddai’r clwb. “Hoffem bwysleisio nad oes unrhyw un yn cael eu beio.

“Roedd dros 1,200 o bobl yn y maes, a phob un yn ymddwyn yn wych. Fe gynorthwyodd y cefnogwyr y stiwardiaid a staff y maes i gau’r ardal ar ôl y digwyddiad, ac roedden nhw’n ddigon hapus i symud i ran arall o’r maes i wylio’r gêm.

“Hoffem ddiolch i’r cefnogwyr a’r stiwardiaid am eu cydweithrediad llawn ar y pryd, a hoffwn hefyd ddiolch i’r dyfarnwr Nick Pratt am ein cynorthwyo er mwyn sicrhau diogelwch chwaraewyr a chefnogwyr.

“Fel clwb rydym yn cymryd materion diogelwch o ddifrif ac fe fyddwn ni’n sicrhau bod y wal yn cael ei thrwsio mor fuan â phosib.”