Ched Evans
Mae Ofcom yn cynnal ymchwiliad ar ôl i wrandawyr gwyno am sylwadau cyflwynydd radio’r BBC a wnaeth sylwadau sarhaus wrth drafod achos y pêl-droediwr Ched Evans.

Dywedodd Nick Conrad, sy’n cyflwyno rhaglen sgwrs ar BBC Radio Norfolk, y dylai merched “gadw eu dillad isaf ymlaen” yn yr ystafell wely, yn ystod dadl fyw yn dilyn penderfyniad Sheffield United i groesawu’r pêl-droediwr yn ôl i’r cae ymarfer.

Roedd Ched Evans wedi treulio dwy flynedd a hanner o ddedfryd pum mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o dreisio dynes 19 mlwydd oed mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011.

Bydd ymchwiliad Ofcom, y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant darlledu, yn ystyried a oedd ei sylwadau’n torri “safonau cynnwys”.

Mae ymgyrchwyr ar ran Argyfwng Trais Rhywiol Cymru a Lloegr wedi dweud bod y sylwadau’n enghraifft o anwybodaeth.

Mae’r BBC – a Nick Conrad – wedi ymddiheuro am ei sylwadau ar ôl i wrandawyr gwyno.

Heddiw, cyhoeddodd clwb pêl-droed Oldham nad ydyn nhw wedi estyn gwahoddiad i Ched Evans hyfforddi gyda’r clwb – y trydydd clwb i gyhoeddi na fyddan nhw’n gadael i’r ymosodwr ymarfer gyda nhw.