Mae clwb pêl-droed Oldham wedi gwadu eu bod nhw wedi estyn gwahoddiad i Ched Evans hyfforddi gyda’r clwb.

Roedd adroddiadau ddoe yn cysylltu Ched Evans gyda’r clwb sy’n chwarae yn Adran Un, ond cadarnhaodd Oldham heddiw na fyddan nhw’n gofyn i gyn-ymosodwr Sheffield United a Chymru i hyfforddi gyda nhw.

Roedd Evans, sy’n 25 mlwydd oed, yn awyddus i ddychwelyd i bêl-droed ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar fis diwethaf. Roedd wedi treulio dwy flynedd a hanner o ddedfryd pum mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o dreisio dynes 19 mlwydd oed mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011.

‘Dim gwahoddiad’

Dywedodd datganiad a ryddhawyd ar wefan swyddogol Oldham: “Mae Oldham Athletic yn ymwybodol o amryw adroddiadau papur newydd sy’n cysylltu’r clwb gyda Ched Evans.

“Hoffai Bwrdd y Cyfarwyddwyr gadarnhau na fyddwn yn estyn gwahoddiad i Ched Evans i hyfforddi gyda Oldham Athletic ac ni fyddwn yn cynnig cytundeb iddo.

“Ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw pellach.”

Tranmere

Cyhoeddodd tîm Tranmere ddydd Iau eu bod nhw hefyd wedi dewis peidio â manteisio ar y cyfle i gyfarfod â Ched Evans i drafod y posibilrwydd o’i gael i hyfforddi gyda nhw.

Ar ôl gadael y carchar, cafodd Ched Evans ganiatâd gan ei gyn glwb, Sheffield United, i ddychwelyd i hyfforddi gyda nhw ar gais undeb y chwaraewyr , Cymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol.

Ond cafodd y cynnig ei dynnu yn ôl yn dilyn gwrthwynebiad gan gefnogwyr a noddwyr y clwb, gan gynnwys deiseb yn ei erbyn a gafodd ei arwyddo gan 160,000 o bobl.