Gareth Bale
Am y tro cyntaf y tymor hwn ni lwyddodd Cristiano Ronaldo i sgorio mewn gêm gynghrair i Real Madrid – lwcus felly bod Gareth Bale wrth law i wneud hynny yn ei le.
Llwyddodd Real i drechu Malaga 2-1 oddi cartref, gyda Ronaldo yn creu ail gôl Los Blancos i’r Cymro, gan sicrhau 16eg buddugoliaeth yn olynol sydd yn record i’r clwb.
Yn Uwch Gynghrair Lloegr fe gafodd Ben Davies gêm lawn i Spurs am yr ail benwythnos yn olynol, a chwarae’n dda wrth iddyn nhw drechu Everton o 2-1.
Chwaraeodd Aaron Ramsey gêm lawn i Arsenal wrth iddyn nhw grafu buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn West Brom, ac fe gafodd Joe Allen 90 munud hefyd wrth i Lerpwl guro Stoke o’r un sgôr.
Yn y frwydr rhwng timau dau o amddiffynwyr Cymru, James Collins gafodd y gorau o Paul Dummett wrth i West Ham drechu Newcastle 1-0.
Rhannu’r pwyntiau wnaeth Abertawe a Crystal Palace yn y Liberty gydag Ashley Williams, Neil Taylor a Joe Ledley i gyd yn chwarae gemau llawn.
Prynhawn siomedig gafodd James Chester, fodd bynnag, wrth i Hull golli 3-0 i ffwrdd yn erbyn Manchester United, ac fe ddaeth Andy King ymlaen am funud i Gaerlŷr wrth iddyn nhw ddisgyn i waelod y gynghrair ar ôl colli 3-2 i QPR.
Rhywfaint o newyddion da am Sam Vokes hefyd – fe chwaraeodd o 45 munud i ail dîm Burnley yr wythnos diwethaf a sgorio, wrth iddo fo barhau i wella o anaf difrifol i’w ben-glin.
Y Bencampwriaeth
Byddai’n anodd dadlau yn erbyn rhoi gôl yr wythnos i David Cotterill, wedi i’r asgellwr sgorio perl gyda’i droed chwith o du allan i’r cwrt cosbi i roi Birmingham ar y blaen yn erbyn Nottingham Forest.
Llwyddodd tîm Cotterill i gipio’r tri phwynt gydag ail gôl hwyr, gan olygu eu bod yn parhau yn ddiguro o dan eu rheolwr newydd Gary Rowett.
Craig Davies sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Bolton drechu Joel Lynch a Huddersfield i godi’n bellach o waelodion y gynghrair.
Fe greodd Jermaine Easter gôl gyntaf Millwall wrth iddyn nhw ddod nôl o fod 2-0 ar ei hôl hi i gipio gêm gyfartal yn erbyn Bournemouth.
Dechreuodd Sam Ricketts, Dave Edwards a Lee Evans i gyd i Wolves wrth iddyn nhw gael crasfa o 4-0 gan Brentford.
Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Chris Gunter, Hal Robson-Kanu, Jake Taylor, Morgan Fox, Adam Henley a Craig Morgan, ond ar y fainc unwaith eto oedd Emyr Huws.
Yn yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews ac Ash Taylor, ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Joe Walsh, Gwion Edwards, James Wilson a Jake Cassidy, gyda phas wych Edwards yn creu gôl yng ngêm gyfartal Crawley.
Seren yr wythnos – David Cotterill. Gôl wych yn tanlinellu ei bwysigrwydd i Birmingham.
Siom yr wythnos – James Chester. Nôl yn nhîm Hull yr wythnos hon, ond Man United yn llawer rhy gryf iddyn nhw.