Mae cyn-newyddiadurwr y Sun, Clodagh Hartley wedi’i chanfod yn ddieuog o gynllwynio gyda swyddog y wasg Llywodraeth Prydain i ryddhau manylion am straeon yn anghyfreithlon yn gyfnewid am arian.

Roedd Hartley wedi’i chyhuddo o gynllwynio i gyhoeddi manylion am Gyllideb Alistair Darling cyn i’r Canghellor gyhoeddi’r Gyllideb yn ffurfiol yn 2010.

Cafodd ei chyhuddo o dalu £17,000 i Jonathan Hall o Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y manylion dros gyfnod o dair blynedd.

Clywodd llys yr Old Bailey fod Hartley wedi awgrymu wrth Hall y dylai dderbyn y taliadau trwy gyfrif ei gariad, Marta Bukarewicz.

Roedd Hartley a Bukarewicz wedi gwadu cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac fe gafwyd y ddwy yn ddieuog.

Roedd Hall wedi derbyn ei fod wedi rhoi manylion i Hartley a’i fod wedi derbyn arian am y wybodaeth.

Bydd Hall yn cael ei ddedfrydu ym mis Chwefror.

Cafodd y manylion a gafodd eu trosglwyddo eu cynnwys mewn erthygl dwy dudalen.

Derbyniodd Hall mwy na £4,000 gan News International rhwng 2008 a 2010.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod Bukarewicz wedi rhoi mwy na £13,000 rhwng 2010 a 2011, ac wedi cadw oddeutu £845 am ei rhan yn y broses.

Roedd Bukarewicz wedi gwadu’r honiad.