Heddlu gwrth-frawychiaeth yn Llundain
Mae cyfres o gyfreithiau gwrth-frawychiaeth sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw wedi cael eu beirniadu gan grwpiau hawliau dynol a’r corff sy’n gyfrifol am graffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â brawychiaeth.

Yn ôl y Bil Gwrth-frawychiaeth a Diogelwch, mae grymoedd newydd yn rhoi’r hawl i atal unigolion sy’n mynd i frwydro dramor rhag dychwelyd i wledydd Prydain.

Cafodd y cyfreithiau eu cyhoeddi wrth i’r heddlu barhau ag wythnos o godi ymwybyddiaeth am ddulliau gwrth-frawychiaeth, lle bydd mwy na 6,000 o bobol yn derbyn cyngor ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Mae arolygwr annibynnol wedi dweud bod y cynlluniau i atal unigolion sy’n cael eu hamau o fod â chysylltiad â gweithredoedd Jihadaidd yn bell o fod yn debyg i’r hyn oedd wedi cael ei awgrymu gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron.

Dywedodd David Anderson fod sylwadau Cameron ym mis Medi’n cyfateb i “gyhoeddiad tra’n aros am bolisi”.

Awgrymodd nad oedd disgwyl gwaharddiad ar unigolion sy’n mynd dramor i ymladd yn “ymarferol nac yn gyfreithlon”, a gwell fyddai sicrhau bod unigolion yn cael dychwelyd o dan oruchwyliaeth.

Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd, bydd dyletswydd ar golegau, prifysgolion, yr heddlu a swyddogion prawf i wneud popeth o fewn eu gallu i atal radicaliaeth, ac fe fydd modd erlyn sefydliadau sy’n methu â chydymffurfio.

Bydd gorfodaeth hefyd ar gwmnïau rhyngrwyd i roi gwybod i’r heddlu os ydyn nhw’n cael gwybod am weithredoedd brawychol neu’n ymwneud â phedoffiliaid.

Bydd ail ddarlleniad o’r Bil yfory.

Mae Amnest Ryngwladol wedi dweud mai peryglus fyddai derbyn y mesurau newydd heb graffu’n ddigonol arnyn nhw.

Ychwanegodd llefarydd bod tynnu pasbort oddi ar unigolion neu wahardd pobol rhag dychwelyd i’w mamwlad yn “gwthio ffiniau cyfreithiau rhyngwladol”.

Mae’r Comisiwn Hawliau Dynol Islamaidd wedi dweud bod y cyfreithiau’n debygol o gythruddo Mwslimiaid.