Mae doctor wnaeth osod camerâu cudd er mwyn ffilmio cannoedd o gleifion a chyd-weithwyr yn gyfrinachol mewn ysbytai, wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.

Fe wnaeth yr arbenigwr clyw Dr Lam Hoe Yeoh o Surrey, ond sy’n wreiddiol o Falaysia, gyfaddef i saith cyhuddiad o foyeuriaeth, chwe chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ac un achos o fod a phornograffi eithafol yn ei feddiant.

Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar yn Llys y Goron Croydon lle dywedodd y barnwr Warwick McKinnon bod y troseddau yn “erchyll a dirmygus”.

Camerâu cudd

Dros gyfnod o bum mlynedd, roedd y doctor 62 oed wedi ffilmio pobol a phlant mor ifanc â thair oed ar y toiled ac wedi casglu 1,100 o luniau a fideos anweddus.

Cafodd ei ddal pan ddaeth un o’i gamerâu i’r golwg mewn toiled cymunedol yn Ysbyty St Anthony yn ardal Llundain, gyda ffilm yn ei ddangos yn gosod y camera.

Roedd hefyd wedi gosod camerâu mewn ysbytai yn Exeter, Sutton, Nottingham a Thames Ditton.