Y Comisiwn Ewropeaidd
Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi datgelu manylion am ei gynllun i roi hwb o £250 biliwn i economi Ewrop.

Wrth gyfarch gwleidyddion yn senedd Strasbwrg, dywedodd Jean-Claude Juncker bod disgwyl i’r cynllun roi Ewrop “yn ôl mewn gwaith”.

Yn ganolog i’w agenda tair blynedd fydd cyllideb o £16 biliwn gan yr UE ei hun, a £4 biliwn o Fanc Buddsoddiad Ewrop, yn ôl Juncker.

Ychwanegodd swyddogion mai’r prif fwriad yw buddsoddi mewn isadeiledd – rhwydweithiau ynni a band llydan yn bennaf – yn ogystal â thrafnidiaeth, addysg ac ymchwil.

‘Angen hwb’

“Mae Ewrop angen hwb a heddiw mae’r comisiwn yn darparu’r cam cyntaf i wneud hynny,” meddai’r llywydd.

“Does ganddom ni ddim peiriant creu arian. Mae’n rhaid i ni ddenu’r arian a gwneud iddo weithio i ni.”

Amheuon

Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymateb trwy bwysleisio na fydd cynnydd yng nghyllideb yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweithredu’r cynllun.

Mae eraill wedi beirniadu’r cynllun gan ddweud ei fod yn dibynnu’n helaeth ar greu buddsoddiad newydd o’r sector preifat.