Lee Rigby
Fe fydd adroddiad hir-ddisgwyliedig ynglŷn â llofruddwyr y milwr Lee Rigby yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Roedd Michael Adebolajo a Michael Adebowale wedi ymosod ar y milwr ger barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ym mis Mai’r llynedd.
Daeth i’r amlwg yn fuan wedyn bod y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth wedi bod yn ymwybodol o Adebolajo, a oedd yn 29 oed ar y pryd, ac Adebowale, a oedd yn 22, ond mae cwestiynau’n parhau ynglŷn â allen nhw fod wedi cael eu monitro’n fwy gofalus.
Mae ymchwiliad gan y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) bellach wedi dod i ben ac fe fydd yr adroddiad y cael ei gyhoeddi bore ma.
Ond mae adroddiadau’n awgrymu na fydd unrhyw unigolion yn cael eu beirniadu yn yr adroddiad ac na fydd MI5 yn cael y bai am fethu ag atal yr ymosodiad.
Mae ’na honiadau hefyd bod y pwyllgor wedi dod i’w gasgliadau heb iddyn nhw siarad gyda nifer o dystion allweddol.
Yn yr Old Bailey ym mis Rhagfyr y llynedd cafwyd Adebolajo ac Adebowale yn euog o lofruddio a’u dedfrydu i garchar am oes.