Mae pwyllgor o Aelodau Cynulliad wedi mynegi pryder difrifol am wasanaethau i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.
Nid yw’r gwasanaeth yn gallu ymdopi gyda’r galw yn ôl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wedi arwain at restrau aros hir a thrafferthion cael mynediad at y gwasanaeth.
Cafodd y pryderon eu codi mewn ymateb i dystiolaeth gan bobl ifanc a’u rhieni yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc arbenigol.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi codi cwestiynau am y diffyg gwariant y pen ar bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, gyda’r swm yn £13.94 yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth yn 2012, sy’n llawer llai o wariant y pen o’i gymharu â gwasanaethau eraill yn y maes iechyd meddwl er enghraifft, gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol sy’n £82.75 y pen.
‘Adolygiad cynhwysfawr’
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb i’r pryderon sy’n cael eu codi gan y pwyllgor drwy gyhoeddi adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc arbenigol (CAMHS) yng Nghymru.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hon yn foment bwysig i wasanaethau CAMHS yng Nghymru, yn ein barn ni.
“Mae’n cynnig cyfle mawr ei angen i foderneiddio’r gwasanaeth fel ei fod yn addas i’r diben ac yn gallu diwallu anghenion plant a phobl ifanc yn y Gymru fodern.
“Rydym wedi ymrwymo’n llawn i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i wella gwasanaethau CAMHS yn ehangach, a byddwn yn dychwelyd at y mater i fonitro cynnydd a sicrhau bod yr agenda foderneiddio yn cael ei rhoi ar waith ar amser, yn ôl y bwriad.”
‘Adroddiad damniol’
Wrth ymateb i’r “adroddiad damniol” dywedodd Aled Roberts, ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac sy’n aelod o’r pwyllgor: “Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n dioddef o salwch meddwl wedi cael eu gadael i lawr yn gyson gan y diffyg yn y gwasanaethau priodol sydd ar gael.”
Ychwanegodd: “Mae’r Llywodraeth Lafur wedi claddu ei phen yn y tywod yn rhy hir, ac wedi anwybyddu’r pryderon a’r rhybuddion sydd wedi cael eu codi.
“Fel pwyllgor rydym ni wedi gweld tystiolaeth bod nifer y plant sy’n cael presgripsiwn am feddyginiaethau wedi cynyddu ar raddfa bryderus. Mae nifer o bobl ifanc yn cael presgripsiwn am gyffuriau cyn i strategaethau eraill gael eu hystyried o flaen llaw.
“Mae’n awgrymu bod hyn yn digwydd oherwydd diffyg seicolegwyr clinigol a therapyddion sydd ar gael.”
Rydym yn croesawu fod y gweinidog wedi cyhoeddi adolygiad o’r gwasanaethau hyn ond mae’n hanfodol bod yr adolygiad yn edrych ar y problemau sylfaenol a’i fod yn gweithredu ar yr argymhellion ar unwaith.”