Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Mae cyfreithwyr ar ran y dyn busnes o Brydain, Shrien Dewani wedi gwneud cais i’r barnwr yn Ne Affrica i beidio parhau gyda’r achos yn ei erbyn am gynllwynio i lofruddio ei wraig.
Cafodd Anni Dewani ei saethu’n farw yn ystod ei mis mêl yn Cape Town yn 2010.
Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli Shrien Dewani yn honni fod y tyst allweddol ar ran yr erlyniad yn annibynadwy.
Mae’r gyrrwr tacsi Zola Tongo, sydd wedi cael ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar am ei ran yn llofruddiaeth Anni Dewani, wedi dweud wrth y llys fod ei gwr wedi trefnu’r llofruddiaeth.
Mae’r barnwr yn yr Uchel Lys Jeanette Traverso, yn clywed y dadleuon dros ollwng yr achos, er nad oes disgwyl penderfyniad tan yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mae Shrien Dewani wedi gwadu unrhyw ran yn llofruddiaeth ei wraig.