Prifysgol Glyndŵr
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi croesawu penderfyniad y Swyddfa Gartref i adfer ei hawl i noddi myfyrwyr rhyngwladol.

Dywedodd y brifysgol bod y penderfyniad “yn argoeli am ddyfodol cadarnhaol iawn i Brifysgol Glyndŵr.”

Ym mis Mehefin cafodd y Brifysgol ei hatal rhag recriwtio myfyrwyr o dramor gan y Swyddfa Gartref yn dilyn honiadau o dwyll yn ymwneud a cheisiadau fisa.

Roedd Prifysgol Glyndŵr yn un o nifer o sefydliadu addysg uwch oedd wedi rhoi canlyniadau annilys mewn profion iaith Saesneg i fyfyrwyr.

O ganlyniad cafodd statws Prifysgol Glyndŵr fel “Noddwr Hynod Ddibynadwy” ei atal.

Roedd ei champws yn Elephant and Castle yn Llundain yn gysylltiedig gyda’r achosion dan sylw.

Cyhoeddodd y Brifysgol heddiw y bydd yn cau’r campws yn Elephant and Castle ac yn symud i leoliad newydd erbyn Gorffennaf 2015.

‘Ymroddedig’

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Glyndŵr: “Rydym yn falch fod y Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo’r DU wedi codi gwaharddiad y Brifysgol i noddi myfyrwyr rhyngwladol.

“Mae’r Brifysgol yn llwyr ymroddedig i barhau i gefnogi system fisâu myfyrwyr mwy cadarn, ac yn hynny o beth bydd yn gwneud nifer o newidiadau i’w champws yn Llundain yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys symud i leoliad arall.

“Bydd y Brifysgol yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo’r DU, oedd yn rhannu ei phryderon dros fyfyrwyr sy’n astudio’n gyfreithlon ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn unol â’r rheoliadau cyfreithiol.

“Y myfyrwyr yw prif gonsýrn y Brifysgol, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn ddiwyd ac ymroddedig.

“Nid ydynt wedi torri rheolau mewnfudo na rheolau’r Brifysgol, ac ni ddylent ddioddef oherwydd camweddau ambell un.”