Chuck Hagel
Mae ysgrifennydd amddiffyn yr Unol Daleithau, Chuck Hagel yn ymddiswyddo, yn ôl ffynonellau.

Roedd wedi bod yn bennaeth y Pentagon ers dechrau 2013.

Mae’n debyg bod Chuck Hagel wedi ei chael yn anodd dylanwadu ar y tîm sy’n gyfrifol am bolisi tramor yn y Tŷ Gwyn.

Daw ei ymddiswyddiad yn sgil etholiad canol tymor echrydus i’r Arlywydd Barack Obama a’r Democratiaid yn y Gyngres.

Mae swyddogion diogelwch cenedlaethol yr Arlywydd hefyd yn wynebu sawl argyfwng dramor, gyda thwf ISIS yn Irac a Syria. Yn ogystal â hynny, roedd y sïon yn dwysau yn ddiweddar am ei ddyfodol yn y swydd.

Bu Chuck Hagel yn feirniadol iawn o ymyrraeth hir dymor America yn Irac. Cafodd ei enwebu gan Barack Obama i olynu Leon Panetta yn ei ail dymor fel arlywydd.

Bydd yn aros yn ei swydd nes bod ei olynydd yn cael ei benodi.

Ymhlith y ffefrynnau i’w olynu mae Michele Flournoy sy’n gyn is-ysgrifennydd amddiffyn, neu Ashton Carter, sy’n gyn ddirprwy ysgrifennydd amddiffyn.