Rhydian Dafydd Andrew Richards
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw mewn damwain ar yr A470 ger Aberhonddu bnawn ddoe.
Roedd Rhydian Dafydd Andrew Richards yn 21 oed ac yn byw ym mhentref Tonnau ger Castell-nedd.
Mae’n debyg bod car a dau feic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad tua 14:10.
Bu’r ffordd rhwng yr A4215 a’r A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd ynghau am sawl awr wedi’r ddamwain.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu â’r heddlu ar 101.