Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r corff sy’n craffu ar gyflogau Aelodau Cynulliad wedi awgrymu y dylid rhoi codiad cyflog o 18% – o £54,390 i £64,000 y flwyddyn – ar ôl yr etholiad nesaf yn 2016.
Mae’r cynigion yn rhan o adolygiad cyflawn gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol, sydd hefyd yn awgrymu codi cyflogau’r Prif Weinidog, aelodau’r Cabinet, Llywydd a chadeiryddion pwyllgorau.
Cred y bwrdd y dylid codi cyflog Aelodau’r Cynulliad er mwyn adlewyrchu eu cyfrifoldebau – gan fod disgwyl i fwy o bwerau gael eu rhoi i Gaerdydd yn sgil datganoli.
Mae aelodau’r bwrdd am weld y cyflogau yn “denu pobl o’r radd flaenaf i fod yn Aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol” ac i arwain y wlad.
O dan y cynigion, byddai cyflog AC yn codi i £64,000, cyflog y Prif Weinidog yn codi o £135,260 i £140,000 a chyflog Gweinidog yn codi o £96,339 i £100,000. Yna byddai cyflog yn codi neu’n disgyn yn unol ag enillion cyfartalog yng Nghymru.
‘Cyfrifoldebau cynyddol’
Dywedodd Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau: “Fel swyddogion annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau, ein nod yw pennu lefelau cyflog sy’n briodol ar gyfer cyfrifoldebau cynyddol y sefydliad democrataidd pwysicaf yng Nghymru.
“Bydd y Pumed Cynulliad, sy’n dechrau yn 2016, yn Senedd lawn fel y rheini yn San Steffan a’r Alban, gyda phwerau deddfu a phennu trethi, a dylanwad pellgyrhaeddol ar fywyd yng Nghymru.
“Yn sgil cyfrifoldebau newydd, bydd disgwyliadau newydd ar Aelodau’r Cynulliad. Rydym yn cynnig cyflog i Aelodau’r Cynulliad sy’n adlewyrchu pwysau’r cyfrifoldeb sydd arnynt.
“Y gobaith yw y bydd pobl Cymru o’r un farn â ni o ran safiad y Cynulliad Cenedlaethol, safon yr unigolion y dylent ddisgwyl iddynt sefyll etholiad, a lefel y perfformiad a ddylai fod yn ofynnol ohonynt.”
Y Cyhoedd
Bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno fel ymgynghoriad cyhoeddus.
Ychwanegodd Sandy Blair: “Yn amlwg, mae pobol yng Nghymru yn wynebu amgylchiadau economaidd anodd ac mae pwysau mawr ar wariant cyhoeddus. Ond dyna’n union pam y mae angen i Gymru ddenu’r bobl o’r radd flaenaf i fod yn Aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol.
“Byddwn yn cwblhau ein cynigion yn y flwyddyn newydd ac rydym yn bwriadu cyhoeddi pecyn cyflawn o daliadau, cymorth a lwfansau ym mis Mai – flwyddyn cyn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2016.”