Mae llys milwrol yng Ngwlad Thai wedi dedfrydu golygydd gwefan i bedair blynedd a hanner o garchar am gyhoeddi erthygl yn difrïo brenin y wlad dros bum mlynedd yn ôl.
Mae’r gosb yn gadarnhad pellach o’r mesurau llym sy’n cael eu cymryd gan yr awdurdodau i gyfyngu ar unrhyw feirniadaeth o’r frenhiniaeth, ar ôl i’r fyddin gymryd drosodd yn y coup ar Fai 22.
Mae’r gyfraith sy’n gwarchod y frenhiniaeth yng Ngwlad Thai yn cael ei ystyried fel y mwyaf llym yn y byd, gyda’r rhai sy’n gyfrifol am ddifrïo, neu fygwth y frenhiniaeth, yn wynebu rhwng tair a phymtheg mlynedd yn y carchar.
Cafodd y ddedfryd yn erbyn y golygydd Nut Rungwong ei haneru gan ei fod wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad, yn ôl swyddog yn y llys.
Fe fu Rungwong yn golygu gwefan newyddion Thai E-news, sydd bellach wedi’i sensora gan yr awdurdodau. Mae’r erthygl a ymddangosodd ar y wefan yn 2009 yn beirniadu’r Brenin Bhumibol Adulyadej.
Ysgrifennwyd yr erthygl ddadleuol gan Giles Ji Ungpakorn, sy’n ysgolhaig mewn gwleidyddiaeth, ac sydd wedi iddo ffoi i Brydain, yn ystod yr un flwyddyn.
Dyma’r ail ddyfarniad a wnaed gan lys milwrol o Wlad Thai y mis hwn, mewn achos yn ymwneud â difrïo’r frenhiniaeth.