Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 31 oed mewn cysylltiad â chyfres o ddigwyddiadau lle mae cerrig mawr wedi cael eu gosod ynghanol ffyrdd.

Mae wedi achosi i geir gael damweiniau ar yr A499 yn Nantlle ac ar y B4418 ger Talysarn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Cafodd dyn lleol i’r ardal ei arestio ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth erbyn hyn.

Dywedodd yr Arolygydd Neil Thomas: “Mae cerrig wedi cael eu gadael ar y ffyrdd yma sydd wedi achosi sawl damwain. Nid yn unig mae wedi achosi miloedd o bunnau o ddifrod i’r ceir, ond mae’r gweithredoedd hyn wedi rhoi bywydau gyrwyr mewn peryg.

“Yn dilyn ymholiadau gan swyddogion lleol, a chyd-weithwyr yn yr Uned Plismona Ffyrdd, cafodd dyn ei arestio a’i gyfweld ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.”

Gofynnir i unrhyw un sydd a mwy o wybodaeth am y digwyddiadau i gysylltu â Matt Tapping yn Swyddfa Heddlu Penygroes ar 101.