Mae’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn cais i ystyried apêl llofrudd sydd wedi ei garcharu am ladd mam, ei dwy ferch ifanc a mam-gu ym mhentref Clydach ger Abertawe.

Cafodd David Morris ei garcharu am oes yn 2006 am lofruddio Mandy Power, ei merched Katie, 10, ac Emily, 8, ynghyd â Doris Dawson, mewn ymosodiad yn eu cartref ym mis Mehefin 1999.

Mae’n parhau i wadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn a dyma’r ail apêl iddo ei gyflwyno. Ni chafodd ei gais diwethaf yn 2008 ei gyfeirio at y Llys Apêl.

Tystiolaeth

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol nad oes cyfyngiad ar faint o weithiau mae rhywun yn medru cyflwyno apêl yn erbyn eu dyfarniad.

Er hyn, mae’n rhaid cyflwyno cais sy’n debygol o arwain at dystiolaeth newydd na chafodd ei glywed yn yr achos gwreiddiol.

Mae’r Mail on Sunday wedi cyhoeddi erthygl sy’n honni bod tystiolaeth newydd wedi dod i’r fei .